Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn swyddogol rydym yn defnyddio Awyrennau Di-griw Bach (SUA), o fewn System Erial Di-griw fel y diffinnir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA). Adwaenir hwy hefyd fel Cerbydau Erial Di-griw (UAVs), ond mae’n dderbyniol defnyddio’r disgrifiad Dronau.
Maent yn awyrennau a weithredir o bell. Cânt eu defnyddio’n gyffredinol gan unigolion yn breifat a gweithredwyr masnachol. Mae gan y rhan fwyaf 4 rotor (petrodor), ond mae gan rai 6 (hecsrodor) neu 8 (octrodor), sy’n rhoi mwy o sefydlogrwydd, esgyniad a dyrchafiad annatod.
Rydym ar hyn o bryd yn hedfan dau DJI Inspire 1 v2. Yn y dyfodol rydym yn gobeithio cynnwys mwyo ddronau mwy galluog ac amlbwrpas.
Mae ystod pris rhwng £20 a £200,000 ac uwch. Gellir cael dronau o ansawdd da sy’n defnyddio GPS a thechnoleg awtonomaidd am gyn rated â £500. Gwnaiff cwmnïau ffilm mawr ddefnyddio dronau amrodor a all gario system gamera prif lwyth drom.
Mae ein Dronau presennol yn costio oddeutu £1500 am y model sylfaenol. Fodd bynnag, rydym angen batris ychwanegol ac offer eraill er mwyn sicrhau diogelwch a chynnal ymgyrchoedd masnachol.
Gallent ddal lluniau llonydd a fideo, hyd at ansawdd 4k, er byddem ond fel arfer yn dal mewn 1080p oherwydd y cyfyngiadau o brosesu’r lluniau. Mae gennym hefyd allu lluniau thermal.
Yn y dyfodol buasem yn gobeithio cynnwys gallu closio hefyd.
Ni chânt eu defnyddio ar gyfer patrolio/gwylio cyffredinol.
Dibynna hyn ar y math o ddrôn. Ni all ein dronau presennol hedfan mewn tywydd gwlyb oherwydd y risg o ddifrodi motor. Gall rhai dronau drytach hedfan mewn tywydd gwlyb a gwynt cryf, e.e. yr Aeryon Skyranger a hedfanir gan Heddlu Sussex. Maent fodd bynnag yn costio £64k yr un.
Dibynna hyn ar y drôn. Mae gan y rhan fwyaf o ddronau defnyddwyr e.e. y DJI Phantom 3 Standard poblogaidd ystod rhwng 500-1000 metr. Er ystyrier fod gan y CAA ganllawiau yn y DU sy’n dweud na ddylech hedfan yn uwch na 120m o’r ddaear.
Gall yr Inspire 1 yn dechnegol gyrraedd uchder o 4500m (sef 14,673 o droedfeddi!).
Mae hyn eto’n dibynnu ar y drôn. Gall ein rhai ni hedfan am oddeutu 19 munud, gan ddibynnu ar y gwynt a’r gwres. Gall rhai rhad iawn hedfan ond am ychydig funudau, ond gall rhai modelau aros yn yr awyr am 27-30 munud.
Gyda hyn mewn golwg, mae gennym nifer o fatris i ymestyn yr amser hedfan, er yn amlwg rhaid i’r drôn ddod i lawr i newid y batri!
Fodd bynnag, mae mwy o risg yn y tywyllwch. Yn ddelfrydol ar gyfer hediadau nos, bydd y peilot wedi cael y cyfle i ymgymryd â rhagchwiliad yng ngolau dydd. Fodd bynnag efallai na fydd hyn yn bosibl ar gyfer gosodiad dynamig. Mae defnyddio camera lluniau thermal yn ddefnyddiol yn y nos yn enwedig. Gwnaiff y mwyafrif o hediadau nos ond defnyddio’r camera hwn.
Rhaid i’r unigolyn sy’n gyfrifol am SUA:
Ar gyfer y defnyddiwr masnachol, gan gynnwys gwasanaethau brys, mae gwiriadau llym, gan gynnwys prawf ysgrifenedig ac ymarferol. Mae angen caniatâd ffurfiol gan y CAA. Mae hefyd angen yswiriant trydydd parti. Mae rhai eithriadau cyfreithiol ar gyfer defnydd y gwasanaethau brys.
Rydym yn argymell defnyddio’r ap Drone Safe a ellir ei lawrlwytho am ddim.
Ond mae ewyn y môr yn rydol, heb sôn y byddai’n byrhau’r motorau os gallai fynd iddo.
Felly byddem yn sicr yn aros ymhell uwchben y risg o ddŵr i mewn.
Mae lefel anhawster dysgu hedfan drôn yn amrywio gan ddibynnu ar yr unigolyn a pa fath o ddrôn maent yn ei hedfan. Er enghraifft, os oes gan unigolyn sgiliau sensorimotor da a chydlyniad llaw a llygaid, yna efallai nai fydd dysgu hedfan drôn mor anodd iddynt.
Yn ychwanegol, gall dysgu hedfan drôn pen uchaf fod yn haws na dysgu hedfan drôn rhatach. Mae hyn oherwydd bod dronau drud fel arfer â llawer o nodweddion cymorth hedfan cynwysedig.
Ar hyn o bryd mae gan yr heddlu 15 o beilotiaid hyfforddedig ledled ardal yr heddlu. Maent i gyd yn hedfan y dronau fel sgil ychwanegol i’w dyletswyddau bob dydd arferol. Efallai byddwn angen mwy yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi’i benderfynu gan ein bod yn y cyfnod prawf cychwynnol.
Mae angen i beilot drôn basio prawf theori a phrawf hedfan ymarferol. Mae’r arholiad theori yn profi gwybodaeth y peilot o wybodaeth am awyrennau, sy’n debyg i beth sy’n ofynnol gan beilot confensiynol.
Mae hefyd cyfleoedd i ddod yn Lygadwr Drôn.
Yn ei hanfod mae ‘Llygadwr’ yn gynorthwyydd i’r Peilot. Mae ein polisi lleoli yn gofyn y dylai un ai dau Beilot fod yn y rhan fwyaf o leoliadau, neu Beilot gyda Llygadwr. Mewn digwyddiadau risg mawr, efallai bydd angen i beilot fynd ar ei ben ei hun, neu gyda llygadwr anhyfforddedig. Mae hyn yn amodol ar asesiad risg.
Mewn lleoliadau mwy cymhleth, efallai bydd angen mwy nag un llygadwr e.e. mewn ardaloedd risg uchel, neu ar gyfer hediadau nos. Rydym wedi hyfforddi nifer o lygadwyr sydd wedi’u lleoli ledled ardal yr heddlu.
Ni fydd y cyhoedd yn gallu galw am ddefnyddio drôn yr heddlu, gan mai ond at ddefnydd yr heddlu y maent.
Gwnawn hefyd ond defnyddio drôn wrth gynorthwyo gwasanaeth brys arall neu asiantaeth partner os oes angen lle bo’n briodol.
Gwnawn ond cofnodi data (lluniau llonydd a fideo) pan mae diben plismona. Gwnawn bob amser geisio ffocysu ar destun y lleoliad a chadw unrhyw ymyrraeth anuniongyrchol i leiafswm.
Cydnabyddir yn gyffredinol y gall dronau sy’n hedfan uwchben neu gerllaw yn ddiflas i rai pobl, yn enwedig os yw’r drôn dros eich cartref neu ardd. Fodd bynnag, yn gyffredinol nid ydym yn berchen ar yr awyr uwchben ein tir.
Mae gofyn i unrhyw un sy’n gweithredu drôn o’r fath ar gyfer hamdden ddilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil. Mae’r rhain yn dweud na ddylai’r drôn beryglu neb na dim. Rhaid iddo gael ei gadw o fewn golwg y gweithredwr. Ni ddylai gael ei hedfan uwchben 400 troedfedd, mewn ardaloedd gorboblog (dim o fewn 150m) neu o fewn 50 metr i unigolyn, cerbyd neu adeilad.
Os ydych yn meddwl fod y drôn yn cael ei weithredu gan dorri cod y CAA, yna dylech drafod y broblem yn gyntaf gyda’r unigolyn sy’n achosi’r broblem er mwyn egluro eich pryderon. Pan fetho popeth arall, hysbyswch eich gwasanaeth heddlu lleol.
Gweler gwefan CAA am arweiniad pellach.
Gwnaiff drôn yr heddlu ond cofnodi data (un ai lluniau llonydd neu ddelweddau fideo) os oes diben plismona iddo. Yn yr un ffordd, gall hofrennydd yr heddlu fod yn hedfan dros eich cartref neu gerllaw. Nid yw’n golyn ei bod yn cofnodi lluniau, neu os yw’n arsylwi arnoch chi neu’ch eiddo.
Cedwir unrhyw ddata a gofnodir yn unig os oes ei angen. Wedi hynny, caiff ei gadw’n amodol ar ddeddfwriaeth berthnasol sy’n llywodraethu ei gadw neu ei waredu.
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl mynediad cyffredinol i holl fathau o wybodaeth a gofnodir a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae’n gosod eithriadau o’r hawl honno ac yn gosod nifer o rwymedigaethau ar awdurdodau lleol.
Rho deddfwriaeth Diogelu Data hawl i unigolyn gopïo unrhyw ddata personol a ddelir amdanynt gan Heddlu Gogledd Cymru, oni bai fod eithriad yn berthnasol. Mae’n gyfyngedig i wybodaeth sy’n berthnasol i’r ymgeisydd yn unig ac ni fydd yn rhoi mynediad i wybodaeth sy’n berthnasol i unigolion eraill.
Ni ddylai gweithredwr hedfan dros neu o fewn 150m o unrhyw ddigwyddiad sydd wedi’i drefnu gyda thros 100 o bobl. Er mwyn hedfan dros ardaloedd gorboblog neu dyrfaoedd, rhaid i’r gweithredwr gael caniatâd arbennig.