Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Os byddwch yn gweld swyddogion heddlu yn ystod digwyddiad, gorymdaith neu brotest, byddant yn cyflawni amrywiol swyddogaethau. Mae’r rhain yn cynnwys atal trosedd ac anrhefn, atal torri’r heddwch a lleihau amhariad difrifol ar y gymuned yn ehangach. Bydd swyddogion yr heddlu yn siarad â threfnwyr cyn ac yn ystod y digwyddiad er mwyn cyflawni hyn.
Yn ystod gorymdeithiau neu brotestiadau mawr, bydd swyddogion yn dueddol o fod wedi’u lleoli mewn mannau allweddol.
Gallant hefyd fod wedi’u lleoli o flaen adeiladau amlwg, ac weithiau byddwn yn gosod rhwystrau dros dro. Bydd hyn naill ai er mwyn rheoli llif y bobl sy’n mynd heibio neu er mwyn atal cerbydau rhag stopio.
Bydd y rhan fwyaf o ddigwyddiadau a gorymdeithiau yn rhai heddychlon, heb unrhyw berygl i’r cyhoedd. Fodd bynnag, os oes trais neu anrhefn bydd ein swyddogion yn ymyrryd er mwyn atal rhagor o darfu ac arestio pobl os bydd angen.
Os ydych yn gweld trais neu anrhefn pan fyddwch mewn digwyddiad, symudwch bellter diogel i ffwrdd a dywedwch wrth swyddog heddlu cyn gynted ag y gallwch.
Er mwyn gweld pob ffordd arall i gysylltu, ewch i’n tudalen cysylltu â ni.
Weithiau bydd ein swyddogion yn ffilmio digwyddiad, gorymdaith neu brotest sy’n digwydd. Gwneir hyn er mwyn casglu gwybodaeth neu dystiolaeth i’n cynorthwyo i wella sut rydym yn plismona digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
Er enghraifft, lle bu trais neu anrhefn gallwn ddefnyddio’r fideo i ddod o hyd i’r rheini sy’n gyfrifol a gwneud yn siŵr nad ydynt yn tarfu ar ddigwyddiadau eraill. Er mwyn helpu i lunio achos, efallai y byddwn hefyd yn ffilmio fideo cyffredinol er mwyn cael teimlad o hwyliau’r dorf.