Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r hysbysiad hwn yn egluro sut mae Heddlu Gogledd Cymru yn prosesu data personol am unigolion. Mae’n cynnwys casglu, storio a rhannu’r wybodaeth honno. Mae hefyd yn disgrifio’r camau a gymerwn er mwyn sicrhau fod y data personol wedi’i warchod. Mae’n egluro'r hawliau sydd gan unigolion o ran eu data personol a drinnir gan Heddlu Gogledd Cymru.
Llywodraethir prosesu data personol gan Ddeddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (RhDDC y DU). Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi hysbysu gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth fel ‘Rheolwr’ [rhif cofrestru: Z4895270]. Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ydy’r Rheolwr ac mae ganddynt rwymedigaeth i sicrhau y cedwir a phrosesir holl ddata personol yn unol â’r gyfraith.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw yn ddifrifol iawn. Mae’n cymryd gofal mawr i sicrhau y trinnir data personol yn briodol er mwyn sicrhau a chynnal ymddiriedaeth a hyder unigolion yn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cael, cadw, defnyddio a dadlennu data personol ar gyfer dau ddiben eang:
Gwnaiff Heddlu Gogledd Cymru ond defnyddio data personol priodol sy’n angenrheidiol i gyflawni ein dibenion. Bydd yn ddigonol, perthnasol a dim yn ormodol.
Cedwir yn gywir, wedi’i ddiweddaru a chaiff ei ddinistrio pan na fydd ei angen bellach.
* Mae gofyn i Heddlu Gogledd Cymru gynnal Arolygon Bodlonrwydd Cwsmeriaid er mwyn gwerthuso ein cyflawniad a'n heffeithiolrwydd. Gallwn gysylltu ag unigolion, fel dioddefwyr trosedd y rhai hynny sy’n hysbysu am ddigwyddiadau. Gofynnwn iddynt roi eu barn i ni am y gwasanaeth a rown i’r cyhoedd. Defnyddiwn y wybodaeth a roddir er mwyn gwella ein gwasanaeth lle bynnag y gallwn. Mae Heddlu Gogledd Cymru, fel sawl heddlu, yn defnyddio cwmni preifat er mwyn ymgymryd ag arolygon o’r fath ar ein rhan. Ceir rheolaethau llym er mwyn diogelu data personol y bobl hynny sydd yn cymryd rhan.
Llywodraethir defnyddio a dadlennu data personol yn y Deyrnas Unedig gan Ddeddf Diogelu Data 2018. Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ydy’r Rheolwr ac mae ganddynt rwymedigaeth i sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn trin holl ddata personol yn unol â’r ddeddfwriaeth..
Caiff ond ei gasglu a’i ddefnyddio gan Heddlu Gogledd Cymru er mwyn cynnal ei swyddogaethau cyfreithiol a chyfreithlon fel y diffinnir gan ddeddfwriaeth, cyfraith gyffredin ac arfer gorau. Mae hyn yn unol â’r Dibenion Plismona a Phlismona Ategol a fanylir uchod.
Gan fod Heddlu Gogledd Cymru yn prosesu llawer o gategorïau data am amrywiol resymau, gall Heddlu Gogledd Cymru hefyd ddibynnu ar seiliau cyfreithiol eraill. Mae’r rhain yn cynnwys y rhai hynny sy’n angenrheidiol ar gyfer cytundeb, y rhai hynny sy’n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, neu y byddwch ar eich ennill yn eu cael.
Bydd seiliau cyfreithiol ychwanegol yn berthnasol pan gesglir data sensitif neu ‘gategorïau arbennig’. Mae’r rhain yn cynnwys cael caniatâd eglur, angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, diogelwch cymdeithasol, amddiffyn yn erbyn hawliau cyfreithiol, ar gyfer budd cyhoeddus sylweddol (fel y Diben Plismona) ac ar gyfer iechyd neu feddygaeth ataliol neu alwedigaethol, ymhlith rhesymau eraill.
Ym mhob achos lle gofynnir am wybodaeth gan Heddlu Gogledd Cymru gwnawn fanylu ar adeg casglu’r data, fel arfer drwy hysbysiad preifatrwydd penodol i wasanaeth, pa sail gyfreithiol uchod a ddibynnwn arno ar gyfer prosesu’r data hwnnw.
Prosesir eich data o dan amod caniatâd pan mae Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio gwybodaeth at ddibenion rhestr bostio cylchlythyr neu unrhyw beth a ystyrir i fod yn ‘farchnata’
Er mwyn cynnal y dibenion a ddisgrifiwyd o dan adran 1 uchod, gall Heddlu Gogledd Cymru gael, defnyddio a dadlennu (gweler adran 8 isod) data personol sy’n berthnasol i amrywiaeth eang o unigolion. Mae’n cynnwys y canlynol:
Er mwyn cynnal y dibenion a ddisgrifiwyd o dan adran 1 uchod, gall Heddlu Gogledd Cymru gael, defnyddio a dadlennu (gweler adran 8 isod) data personol sy’n berthnasol i neu’n cynnwys y canlynol:
Rydym hefyd yn prosesu gwybodaeth Categori Arbennig a all gynnwys:
Rydym hefyd yn prosesu gwybodaeth sy’n berthnasol i ddata euogfarnau troseddol a throseddau gan gynnwys:
Cewch eich hysbysu am y rheswm am gasglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol lle bo’n bosibl a/neu’n briodol. Er, wrth ystyried swyddogaethau statudol yr Heddlu, gall hyn fod yn amhosibl gan y gall wneud ragfarnu swyddogaethau plismona (fel y manylwyd uchod).
Er mwyn cynnal y dibenion a ddisgrifir o dan adran 1 uchod, gall Heddlu Gogledd Cymru gael data personol o amrywiaeth eang o ffynonellau, heblaw'r unigolyn yn uniongyrchol. Mae’n cynnwys y canlynol:
Gall Heddlu Gogledd Cymru hefyd gael data personol o ffynonellau eraill fel ei systemau CCC, camerâu corff, cofnodion hyfforddi neu ohebiaeth.
Er mwyn cyflawni’r dibenion a ddisgrifir o dan adran 1, gwnaiff Heddlu Gogledd Cymru drin data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Gwnawn sicrhau y trinnir data personol yn deg a chyfreithlon gyda chyfiawnhad priodol.
Gwnawn geisio sicrhau fod unrhyw ddata personol a ddefnyddir gennym ni neu ar ein rhan yn gywir a pherthnasol. Gwnawn hefyd sicrhau:
Gwnawn hefyd barchu hawliau unigolion o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ystyried diogelwch holl ddata personol o dan ein rheolaeth yn ddifrifol. Gwnawn gydymffurfio â rhannau perthnasol Deddf Diogelu Data 2018 sy’n berthnasol i ddiogelwch. Gwnawn geisio cydymffurfio â Pholisi Diogelwch Cymunedol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (CCPSH) a rhannau perthnasol Safon Diogelwch Gwybodaeth ISO27001.
Gwnawn sicrhau fod polisi, hyfforddiant, mesurau technegol a gweithdrefnol priodol mewn grym. Mae hyn yn cynnwys archwiliad ac arolwg, er mwyn gwarchod ein systemau llaw ac electronig rhag colli a chamddefnyddio data. Gwnawn ond caniatáu mynediad iddynt pan mae rheswm cyfreithlon i wneud hynny, ac yna o dan ganllawiau llym ynghylch sut y gellir defnyddio data personol o fewn iddynt. Rheolir a gwellir y gweithdrefnau hyn yn barhaus er mwyn sicrhau'r diogelwch diweddaraf.
Er mwyn cynnal y dibenion a ddisgrifir o dan adran 1, gall Heddlu Gogledd Cymru ddadlennu data personol i amrywiaeth eang o dderbynyddion, gan gynnwys y rhai hynny y ceir eu data personol (fel y rhestrir uchod). Gall hyn gynnwys y canlynol:
Gwneir dadleniadau data personol ar sail bob achos. Defnyddir y data personol sy’n briodol a digonol at ddiben penodol a sail gyfreithlon, a chyda rheolaethau angenrheidiol mewn grym.
Cewch eich hysbysu lle bo’n bosibl os bwriadwn ddefnyddio neu rannu eich gwybodaeth i ddiben heb fod yn amlwg. Gwneir hyn un ai’n uniongyrchol, drwy wefan yr Heddlu neu ffyrdd eraill o gyfathrebu.
Gwnawn weithio gydag asiantaethau partner a gallwn rannu eich gwybodaeth â nhw. Ystyrir holl ymgeision i geisio gwneud y wybodaeth bersonol yn anhysbys yn y lle cyntaf. Dim ond gwybodaeth bersonol a rennir os oes sail gyfreithiol i wneud hynny ac wedi ystyried eich hawliau i breifatrwydd yn llawn.
Gwnawn fynd ati i reoli ein Hasedau Gwybodaeth mewn cydweithrediad â Pherchnogion Asedau Gwybodaeth a wnaiff reoli a monitro’r wybodaeth drwy ei gylch oes.
Gall rhai o’r cyrff neu unigolion y gwnawn ddadlennu data personol iddynt fod tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Nid oes gan rai o’r rhain gyfreithiau sy’n diogelu data mor helaeth yn y Deyrnas Unedig. Os gwnawn drosglwyddo data personol i diriogaethau o’r fath, gwnawn ymgymryd i sicrhau fod diogelwch priodol mewn grym i ardystio y diogelir yn ddigonol fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Diogelu Data 2018.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn dadlennu data personol i gyrff neu unigolion eraill pan mae gofyn gwneud gan, neu o dan, unrhyw ddeddf gwlad, unrhyw reol gyfreithiol, neu orchymyn llys. Gall Heddlu Gogledd Cymru ddadlennu data personol ar sail dewisol, fel y caniateir gan y gyfraith.
Ceir hyn yn Erthyglau 13 a 14 RhDDC y DU ac Adran 44 Deddf Diogelu Data sy’n amlinellu dyletswyddau cyffredinol Rheolwr. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ymdrin â’r gofyniad hwnnw.
Mae gan unigolion yr hawl i ymgeisio am gopi o’u data personol a gedwir gan Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r hawl hon, a gyfeirir ati yn gyffredinol fel Mynediad at Ddata gan y Testun, yn cael ei chreu gan Erthygl 15 RhDDC y DU ac Adran 45 Deddf Diogelu Data 2018. Caiff ei defnyddio gan unigolion sydd eisiau gweld copi o’r wybodaeth mae sefydliad yn ei chadw amdanynt (yn amodol ar eithriadau).
Mae Erthygl 16 RhDDC y DU ac Adran 46 Deddf Diogelu Data 2018 yn rhoi hawl i unigolion gael data personol anghywir gael ei gywiro neu ei gwblhau os yw’n anghyflawn. Gall hyn gynnwys Heddlu Gogledd Cymru darparu datganiad ategol i’r data anghyflawn.
Mae Erthygl 17 RhDDC y DU ac Adran 47 Deddf Diogelu Data 2018 yn rhoi’r hawl i unigolion gael dileu data personol. Adwaenir hyn fel yr ‘hawl i fod yn anghofiedig’. Nid yw’r hawl yn ddiamod ac mae ond yn berthnasol mewn amgylchiadau penodol.
Mae Erthygl 18 RhDDC y DU ac Adran 47 Deddf Diogelu Data 2018 yn rhoi’r hawl i unigolion gyfyngu prosesu eu data personol mewn amgylchiadau penodol. Mae hyn yn golygu y gall unigolyn gyfyngu’r ffordd mae sefydliad yn defnyddio eu data.
Mae Erthygl 20 RhDDC y DU yn rhoi’r hawl i unigolion dderbyn data personol maent wedi’i roi i Reolwr mewn fformat strwythurol, a ddefnyddir yn gyffredin ac a ellir ei ddarllen gan beiriant. Mae hefyd yn rhoi’r hawl iddynt ofyn i Reolwr drosglwyddo’r data hwn yn uniongyrchol i Reolwr arall.
Mae Erthygl 21 RhDDC y DU yn rhoi’r hawl i unigolion wrthwynebu:
Mae Erthygl 22 RhDDC y DU ac Adrannau 49/50 Deddf Diogelu Data 2018 yn darparu gwarchod unigolion rhag prosesu a gynhelir yn unig gan wneud penderfyniadau awtomataidd sydd ag effeithiau cyfreithiol neu arwyddocaol tebyg arnynt.
Os ydych eisiau gwneud cwyn diogelu data gyda Heddlu Gogledd Cymru ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion a roddir o dan adran 12 isod.
Os ydych yn parhau i deimlo nag ymdriniwyd â’ch pryderon ar ôl gwneud cwyn diogelu data i Heddlu Gogledd Cymru, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gan ddefnyddio’r manylion isod:
The Information Commissioner's Office,
Wycliffe House,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol)
Gwefan: https://ico.org.uk/
Ceidw Heddlu Gogledd Cymru ddata personol cyhyd â'i fod yn angenrheidiol at y diben y casglwyd ac y proseswyd. Cedwir cofnodion sy’n cynnwys data personol sy’n berthnasol i faterion cudd-wybodaeth, diogelwch cyhoeddus, troseddwyr treisgar a rhywiol, unigolion ar goll, achosion a dalfeydd, troseddau a digwyddiadau, drylliau tanio, ymchwiliadau cam-drin plant a thrais domestig. Mae hyn yn unol ag Arfer Proffesiynol Awdurdodedig (APA) y Coleg Plismona ar Reoli Gwybodaeth yr Heddlu. Cedwir cofnodion eraill yn unol â’n Hatodiad Adolygu, Cadw a Gwaredu.
Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i ddadansoddi ein cyflawniad ac effeithiolrwydd. Mewn rhai achosion gall fod yn angenrheidiol cysylltu â chi i ofyn i chi gysylltu â ni yn y dadansoddiad er mwyn casglu gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarparwn.
Gweithredir ac adolygir polisïau a gweithdrefnau Rheoli Gwybodaeth yn barhaus er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus yn y ffordd y trinnir gwybodaeth. Adlewyrchir unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth a datblygiadau mewn cyfraith achosion yn ôl yr angen.
Mae holl staff a chontractwyr wedi’u fetio a’u hyfforddi’n addas yn y polisïau a gweithdrefnau priodol ar gyfer sicrhau y trinnir gwybodaeth bersonol yn gywir. Mae staff yn derbyn hyfforddiant ar ddechrau cyflogaeth a hyfforddiant gloywi fel yr ystyrir yn angenrheidiol.
Gwnawn fynd ati i fonitro’r defnydd cyfreithlon ac ansawdd gwybodaeth drwy archwiliadau a monitro trafodion. Ystyrir unrhyw doriadau yn ddifrifol ac ymgymerir ymchwiliadau disgyblaethol/troseddol fel sy’n angenrheidiol. Ni wnaiff yr Heddlu oddef unrhyw gamddefnyddio gwybodaeth.
Gall Heddlu Gogledd Cymru fonitro neu gofnodi a chadw galwadau ffôn, negeseuon testun, negeseuon e-bost a negeseuon electronig eraill at a gan yr heddlu. Mae hyn er mwyn atal, rhwystro neu ganfod gweithgarwch amhriodol neu droseddol, sicrhau diogelwch, a chynorthwyo'r dibenion a ddisgrifir uchod. Nid ydy’r Heddlu’n gosod ‘Hysbysiad Prosesu Teg’ wedi’i recordio o flaen llawn ar linellau ffôn a all dderbyn galwad frys (gan gynnwys rhai sydd wedi’u camgyfeirio). Mae hyn oherwydd y risg cysylltiedig o niwed a ellir eu hachosi drwy’r oedi mewn ymateb i’r alwad.
Gwnawn sicrhau y trinnir hawliau statudol i wybodaeth o dan ddarpariaethau Deddf Diogelu Data 2018; Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (Ein Data). Os cewch unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu gamarweiniol, gwnawn sicrhau yr asesir yn drwyadl a’i gywiro’n briodol.
Defnyddir cwcis ar y wefan hon i wella profiad y defnyddiwr ac ar gyfer swyddogaethau hanfodol; ni chânt eu defnyddio at ddibenion adnabod.
Dysgu rhagor am sut rydym yn rheoli cwcis.
Er mwyn arfer unrhyw un o’r hawliau o dan adran 9 uchod sy’n berthnasol i ddata personol a gedwir gan Heddlu Gogledd Cymru, dylid gwneud cais gan ddefnyddio’r manylion isod. Gall unrhyw unigolyn sydd â phryderon ynghylch y ffordd mae Heddlu Gogledd Cymru yn trin eu data personol gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion isod:
E-bost:
[email protected]
Cyfeiriad:
Swyddog Diogelu Data
Adran Sicrwydd Gwybodaeth
Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru
Glan y Don
Bae Colwyn
LL29 8AW