Offer i Daclo Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) | #WythnosYmwybyddiaethASB
Ymddygiad yw ASB sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi dychryn, gofid neu anfodlonrwydd, digwyddiadau o droseddau ac anhrefn a all amharu ar fywydau pobl. Dywedodd Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Heddlu Gogledd Cymru, Llinos Preece: "Pan fyddwch yn sôn am ymddygiad gwrthgymdeithasol, dw i'n meddwl fod pobl yn meddwl am anghydfod mewn cymdeithas, ond mewn gwirionedd, mae'n cynnwys pob math o drosedd y gallwch feddwl amdano. "Mae unrhyw ymddygiad sydd yn cael effaith andwyol ar safon bywyd yn yr ardal, sy'n barhaus ac yn afresymol yn cael effaith ar y gymuned yn cael ei ystyried yn ASB." Heddiw fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB), rydym yn pwysleisio'r hyn y gallwch wneud os ydych wedi dioddef ASB, sut a ble i'w riportio a sut y gall ASB gael ei daclo yn eich ardal. Er mwyn gwybod mwy am ASB, ewch ar ein gwefan yma Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol? Heddlu Gogledd Cymru