Cynnal ymgyrch diogelwch y ffyrdd yn Y Fflint
Mi gafodd gyrrwr ei arestio o dan amheuaeth o yrru ar gyffuriau ac mi gafodd nifer o rai eraill eu stopio am droseddau, gan gynnwys gyrru tra’n defnyddio ffôn symudol a gyrru heb wregys diogelwch, yn ystod ymgyrch diogelwch a gynhaliwyd yn y Fflint ddoe (dydd Iau).