Byddwch ddiogel, byddwch weladwy
Anogir defnyddwyr y ffyrdd i sicrhau eu bod yn ddiogel wrth i dymor yr Hydref gyrraedd. Gyda’r clociau yn cael eu troi awr yn ôl ar ddiwedd y mis mae’r newidiadau yn golygu y bydd y dyddiau’n byrhau ac y bydd yn tywyllu’n gynt. Golyga hyn felly y bydd plant, cerddwyr a beicwyr yn fwy bregus ac yn llai gweladwy i fodurwyr.