Gwiriadau golwg wedi’u cynnal fel rhan o ymgyrch diogelwch y ffyrdd ehangach
Mi gafodd gyrrwr ei arestio o dan amheuaeth o yrru ar gyffuriau, ac mi gafodd nifer o rai eraill eu stopio am droseddau, gan gynnwys gyrru heb drwydded a theiars diffygiol, yn ystod ymgyrch diogelwch y ffyrdd gafodd ei gynnal yng Nghaergybi a Bangor heddiw (dydd Iau, 6 Tachwedd).