Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Cynhaliwyd Gwrandawiad Camymddwyn Cyflym heddiw ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Bae Colwyn.
Ystyriodd y gwrandawiad ymddygiad y cyn Dditectif Arolygydd Emma Gardner ar ôl iddi gael ei heuogfarnu am gamddefnyddio cyfrifiaduron. Ymddiswyddodd Gardner o Heddlu Gogledd Cymru yn ystod yr achos cyfreithiol yn ymwneud â'r mater.
Heddiw, canfu'r gwrandawiad, na wnaeth y cyn swyddog ei fynychu, fod yr honiad wedi'i brofi a bod ei gweithredoedd yn gyfystyr â Chamymddwyn Difrifol. Pe bai hi'n dal i fod yn swyddog heddlu yn gwasanaethu, byddai wedi cael ei diswyddo heb rybudd.
Yn ogystal, bydd ei henw yn cael ei roi ar Restr Unigolion Gwaharddedig y Coleg Plismona, gan ei hatal rhag gweithio o fewn plismona yn y dyfodol.
Ar 8 Gorffennaf 2026, cafwyd Gardner yn euog yn Llys y Goron Caernarfon o drosedd yn groes i Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990 yn dilyn achos llys. Mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu ar 11 Medi 2026.
Wrth siarad ar ôl y gwrandawiad, dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman KPM:
"Ymddiriedir yn swyddogion a staff yr heddlu hefo mynediad at wybodaeth sensitif iawn, ac mae'r cyhoedd yn iawn yn disgwyl i'r wybodaeth honno gael ei defnyddio at ddibenion plismona cyfreithlon yn unig.
Mae'r safonau a ddisgwylir gan y rhai sy'n gweithio ym maes plismona yn uchel iawn, ac mae cynnal hyder y cyhoedd yn sylfaenol i bopeth a wnawn ni.
Roedd yr achos hwn yn ymwneud hefo ymddygiad troseddol a oedd yn disgyn ymhell yn is na'r safonau a ddisgwylir gan swyddog heddlu. Mae camddefnyddio systemau a gwybodaeth yr heddlu yn tanseilio'r ymddiriedaeth y mae'r cyhoedd yn ei roi mewn plismona, ac felly mae'n iawn fod camau cadarn wedi'u cymryd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal y safonau proffesiynol uchaf a sicrhau bod swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn cael eu dal yn atebol pan nad ydy'r safonau hynny'n cael eu bodloni."