Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
| 1. Caethwasiaeth fodern a masnachu pobl |
| 2. Sut allwch chi adnabod caethwasiaeth fodern a masnachu pobl |
| 3. Sut mae troseddwyr yn camfanteisio ar eu dioddefwyr |
| 4. Riportiwch gaethwasiaeth fodern a fasnachu pobl |
| 5. Cymorth i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu pobl |
Mae gan gymunedau rôl bwysig i’w chwarae mewn adnabod cam-drin. Os ydych chi’n credu y gallai rhywun fod yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl, rhowch wybod i ni cyn gynted ag y credwch ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny.
Gallai hyn fod amdanoch chi’ch hun, dioddefwr arall, rhywun a amheuir, neu fusnes neu le penodol. Byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif, ac mae amddiffyniad a chefnogaeth ar gael.
Gallwch riportio caethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl wrthym ar-lein.
Neu ffoniwch ni ar 101 unrhyw bryd.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101.
Os ydych chi’n credu bod perygl uniongyrchol i fywyd neu os oes rhywun yn defnyddio trais neu’n bygwth bod yn dreisgar, ffoniwch 999 nawr.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru’ch ffôn ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Os ydych chi am aros yn ddienw, gallwch gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111.
Os nad ydych chi am riportio wrthym ni, ceisiwch gyngor neu trafodwch eich amheuaeth yn gyfrinachol gyda’r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern 08000 121 700. Ar agor 365 diwrnod y flwyddyn.
Gallwch hefyd drafod unrhyw bryderon sydd gennych gyda Stop the Traffick.
Nesaf: Cymorth i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu pobl