Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
| 1. Caethwasiaeth fodern a masnachu pobl |
| 2. Sut allwch chi adnabod caethwasiaeth fodern a masnachu pobl |
| 2. Sut mae troseddwyr yn camfanteisio ar eu dioddefwyr |
| 3. Riportiwch gaethwasiaeth fodern a fasnachu pobl |
| 4. Cymorth i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu pobl |
Gall y ffyrdd y camfanteisir ar ddioddefwyr caethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl amrywio. Efallai na fyddant yn cyd-fynd â’r stereoteip o bobl yn cael eu gorfodi i weithio mewn caeau neu mewn bariau ewinedd.
Os ydych chi’n credu bod rhywun yn dioddef camfanteisio mewn unrhyw un o’r ffyrdd hyn, neu os oes rhywun yn camfanteisio arnoch chi mewn unrhyw un o’r ffyrdd hyn, gallwch chi ei riportio wrthym.
Dyma pan fydd dioddefwyr caethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl yn cael eu gorfodi, eu bygwth neu eu twyllo i gyflawni troseddau fel:
Mae rhai dioddefwyr yn cael eu gorfodi i weithio fel tyfwyr canabis. Defnyddir eraill i ddosbarthu neu werthu cyffuriau.
Mae llinellau cyffuriau yn un math o gamfanteisio troseddol. Dyma lle mae pobl agored i niwed, yn aml plant, yn cael eu defnyddio i gario cyffuriau o ddinasoedd i’w gwerthu mewn trefi cyfagos a chefn gwlad.
Darganfod mwy am linellau cyffuriau.
Mae dioddefwyr yn cael eu gorfodi neu eu rhoi dan bwysau i wneud gwaith rhyw neu i gyflawni gweithredoedd rhywiol tra’n cael eu rheoli gan eu camfanteisiwr. Mae hyn yn cynnwys gwaith hebrwng, pornograffi neu greu delweddau anweddus o blant.
Menywod a phlant yw’r rhan fwyaf o ddioddefwyr camfanteisio rhywiol, ond gall effeithio ar ddynion hefyd.
Mae dioddefwyr yn cael eu symud o un lle i’r llall gan eu camfanteisiwr i gael rhan o’r corff wedi’i dynnu allan. Mae prynu neu werthu organau dynol ar gyfer trawsblannu yn anghyfreithlon. Mae hefyd yn anghyfreithlon os yw’r camfanteisiwr yn byw yn y DU ond yn trefnu i’r organ gael ei thynnu dramor.
Yr organau mwyaf cyffredin sy’n rhan o hyn yw’r afu/iau a’r aren.
Mae pobl ifanc yn cael eu twyllo i deithio i’r DU gan feddwl y byddant yn mynd i’r ysgol neu’n cael swyddi yma.
Pan fyddant yn cyrraedd, maent yn darganfod eu bod wedi cael eu twyllo ac yn cael eu gorfodi i weithio mewn bwytai, helpu gyda thasgau neu ddwyn. Yn aml ni chaniateir iddynt fynd i’r ysgol. Weithiau maent yn cael eu gorfodi i weithio yn y diwydiant rhyw.
Hyd yn oed os nad yw plentyn sydd wedi’i fasnachu yn cael ei orfodi neu ei fygwth i gyflawni trosedd, mae’n dal yn dioddef camfanteisio oherwydd ei oedran.
Nesaf: Riportiwch gaethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl