Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wnaeth boeri yn wyneb swyddog heddlu ar ôl cael ei arestio am fod hefo cyllell yn ei feddiant wedi cael ei garcharu.
Ymddangosodd Bowaen Wild, 28, o Churchill Close, Hen Golwyn, i'w ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw (dydd Llun, 14 Gorffennaf).
Cafodd ei garcharu am 10 mis ar ôl cyfaddef sawl cyhuddiad.
Roedd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio Wild ar 2 Mawrth 2025, yn dilyn adroddiadau am ddyn yn cerdded i lawr Ffordd Glan-y-Môr, Hen Golwyn, hefo cyllell yn ei law.
Roedd hefyd wedi cael ei adnabod fel un o dan amheuaeth mewn ymgais i ladrad gerllaw.
Ar ôl cael ei gadw wedyn, poerodd Wild yn wyneb un o'r swyddogion a brathu llaw un arall.
Roedd Wild yn wynebu cyhuddiadau pellach yn ymwneud â throseddau ar wahân, a oedd yn cynnwys affräe a digwyddiad trefn gyhoeddus hiliol.
Roedd y cyhuddiad olaf yn ymwneud â sarhad hiliol a lefarodd Wild i staff meddygol ar 13 Mawrth 2025.
Dywedodd Prif Arolygydd Trystan Bevan: "Roedd ymddygiad Wild – o feddu arf ac ymgais i ladrata i ymosodiadau treisgar ac ymddygiad ymosodol hiliol – yn bryderus iawn.
"Roedd ei ymddygiad treisgar yn erbyn swyddogion heddlu yn gywilyddus. Ni fyddwn yn goddef unrhyw ymosodiad ar weithiwr gwasanaeth brys sy'n ceisio gwneud eu gwaith i gadw pobl eraill yn saff.
"Mae hyn yn anfon neges glir na fydd gweithredoedd o'r fath yn cael eu goddef, ac mae ein swyddogion a'n gweithwyr rheng flaen ni'n haeddu cael eu gwarchod rhag niwed a gelyniaeth.
"Byddwn yn parhau i ymdrin yn gadarn hefo troseddwyr sy'n peryglu diogelwch aelodau ein cymuned."
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol a Thrysorydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, Lewis Davies: "Mae Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru yn croesawu'r ddedfryd o garchar a roddwyd i Bowaen Wild.
"Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fynegi ein siom hefo hyd y ddedfryd. Mae Wild wedi dangos diystyriaeth amlwg i ddiogelwch ein swyddogion dewr sy'n gwneud eu gwaith yn unig.
"Ni ellir gorbwysleisio'r risgiau o haint o glefyd a gludir gan boer. Byddwn yn parhau hefo'n gwaith yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn galw am well dedfrydu mewn achosion o'r fath. Bydd hyn yn ataliad priodol i'r rhai sy'n ceisio bygwth ac anafu swyddogion heddlu a'r gwasanaethau brys ehangach."